Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 8 Hydref 2021
Amser:
09.28 -
11.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/en/12536
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Ken Skates AS, Comisiynydd |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1. Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Prif Weithredwr a'r Ysgrifennydd Parhaol, Cyllid a Thollau EM: Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol newydd Cyllid a Thollau EM ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru – 24 Medi 2021
2.2 PTN 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu Yswiriant Gwladol – 27 Medi 2021
2.3 PTN 3 – Llythyr gan Gynullydd y Pwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Senedd yr Alban: Cydweithio – 29 Medi 2021
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23 gan y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.
3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â’i gynlluniau i estyn allan i garfannau nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â'r Senedd.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.